Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Powys

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Powys yn cynnig gwasanaeth wythnosol o gasglu bagiau. Mae’r bag gydag ysgrifen goch ar gyfer poteli plastig, tuniau a chaniau, ffoil, papur lapio plastig a bagiau. Mae’r bag gydag ysgrifen ddu ar gyfer cardfwrdd, papurau newydd a chylchgronau, dillad, tecstilau ac esgidiau.
I archebu mwy o fagiau, ffoniwch 0845 607 6060. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Powys.

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae 6 Safle Amwynder Dinesig in Powys

  • Stad Ddiwydiannol Ffwdgrech, Aberhonddu 01874 610022
  • Llandeglau 01597 851844
  • Ffordd yr Orsaf, Machynlleth 01938 552396
  • Wern Ddu Lane, y Drenewydd 01938 552396
  • Severn Road, y Trallwng 01938 552396
  • Safle Tirlenwi Tir Canol, Cwmtwrch Isaf, Ystradgynlais 01639 845839

Mae amseroedd agor y gwahanol safleoedd yn amrywio felly holwch am fanylion yn eich safle agosaf.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Powys.

Cewch fwy o wybodaeth am ailgylchu mewn ysgolion ym Mhowys yma

Cyfeiriad
  • Adran Rheoli Gwastraff
    CS Powys
    Llandrindod
    Powys
    LD1 5LG

  • Y Ddesg Gymorth
  • 0845 6027035